Beth mae'r Tribiwnlys Prisio yn ei wneud yn gryno …

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn gwrando ar apeliadau trethiant lleol, yn bennaf mewn perthynas â'r Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (ardrethi busnes). I gael gwybod mwy, cliciwch ar y dolenni Treth y Cyngor a Threthi Busnes yn y ddewislen ar y chwith.

Cyfleoedd Gyrfa Gyfredol

Cyfleoedd Gyrfa Gyfredol

Swyddog Cymorth Gweinyddol

£23,500 i £26,873 y flwyddyn

Casnewydd

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru (TPC) yn gwrando ar apeliadau trethiant lleol, yn bennaf mewn perthynas â'r Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (trethi busnes). Mae'n gorff cyhoeddus annibynnol sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae TPC yn edrych i recriwtio hyd at 3 Swyddog Cymorth Gweinyddol a'u prif swyddogaethau fydd:

• darparu gwasanaethau gweinyddol llawn i TPC, ac,

• cefnogi Clercod y Tribiwnlys i reoli'r llwyth achos a ddyrannwyd.

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sydd â pharodrwydd i ddysgu a'r gallu i ddatrys problemau. Yn ddelfrydol, hoffem iddynt feddu ar sgiliau Cymraeg neu o leiaf parodrwydd i ddysgu.

Ewch i'n tudalen Swyddi am yr hysbyseb llawn, ac i lawrlwytho ein pecyn cais a'n ffurflen gais.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 17 Mai 2024.

Newidiadau i apêl ardrethi busnes yng Nghymru …

Newidiodd y ffordd i apelio gwerth ardrethol eich eiddo ar 1 Ebrill 2023. Gwyliwch ein fideo isod am fanylion.