vtswTagLine.gif
Iau 20 Tachwedd 2008
 
Chwilio


Pecyn Cais – Hysbyseb Swydd Dogfen Sylfaen - PR

CYNGOR LLYWODRAETHOL GWASANAETH TRIBIWNLYS PRISIO CYMRU (CLlGTPC) PRIF WEITHREDWR CYFLOG ODDEUTU: £42 MIL Mae'r Cyngor Llywodraethol am benodi Prif Weithredwr i fod yn bennaeth Darllen Mwy .

Cartref : Cwertiynau Cyffredin : Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Dyma restr o rai cwestiynau cyffredin – am wybodaeth fanylach gweler ein hadran taflenni arweiniad os gwelwch yn dda.

Beth yw Tribiwnlysoedd Prisio?
Beth yw Hysbysiad o Wrandawiad?
Beth ddylwn ei wneud nesaf?
Sut wyf yn paratoi fy achos cyn y gwrandawiad?
Oes angen i mi gyfnewid unrhyw dystiolaeth â’r Swyddog Prisio neu’r Swyddog Rhestru cyn y gwrandawiad?
Oes angen i mi fynychu’r gwrandawiad?
Beth yw trefn y gwrandawiad?
A fydd y Tribiwnlys yn fy hysbysu o’i benderfyniad ar y diwrnod?
A yw’r Tribiwnlys yn gallu dyfarnu costau?
A yw’r Tribiwnlys yn gallu adolygu ei benderfyniad?
A allaf apelio yn erbyn y penderfyniad (Prisiad Treth y Cyngor)?
A allaf apelio yn erbyn penderfyniad (Treth Annomestig)?
A allaf gwyno am y gwasanaeth a ddarparwyd?



Beth yw Tribiwnlysoedd Prisio?

Mae 4 Tribiwnlys Prisio (TP) yng Nghymru. Mae pob un yn gorff annibynnol sy’n ymdrin ag apeliadau Trethi Annomestig a Threth y Cyngor. Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n ariannu Tribiwnlysoedd Prisio Cymru.

Mae’r Tribiwnlysoedd Prisio yn annibynnol o’r Swyddog Prisio (SP) a’r awdurdod bilio.

Mae aelodau’r Tribiwnlysoedd yn bobl leol ac yn wirfoddolwyr. Er nad oes ganddynt gymwysterau proffesiynol efallai, maent yn derbyn hyfforddiant ffurfiol ac mae ganddynt brofiad o wrands apeliadau. Fel arfer, bydd tri aelod yn gwrands ar eich apêl, er y gall dau aelod y gwrandawiad apêl os yw pawb yn cytuno i hynny. Bydd Clerc, a gyflogir gan y Tribiwnlys, yn cynghori ynglŷn â’r gyfraith a threfn.

Mae’r Tribiwnlysoedd Prisio yn darparu gwasanaeth rhad ac am ddim ac nid ydynt, felly, yn gallu dyfarnu costau yn eich erbyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi dalu eich costau eich hun i fynychu’r gwrandawiad tribiwnlys. Pan fo hynny’n bosibl, byddwn yn gwrands ar apeliadau yn lleol.


Brig

Beth yw Hysbysiad o Wrandawiad?

Mae’r hysbysiad hwn yn eich cynghori o’r dyddiad, yr amser a’r lleoliad y bydd y Tribiwnlys yn ystyried eich apêl. Os nad ydych yn gallu mynychu’r gwrandawiad, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Clerc ar unwaith.

Os oes gennych unrhyw anabledd neu unrhyw anghenion penodol o ran ystafell y gwrandawiad, cysylltwch â’r Clerc ar unwaith os gwelwch yn dda, er mwyn gwneud y trefniadau angenrheidiol.


Brig

Beth ddylwn ei wneud nesaf?

Yn dibynnu ar y math o apêl, mae’n bosib i chi ddod i gytundeb ar eich apêl gyda’r Swyddog Rhestru (SRh), y Swyddog Prisio (SP) neu’r Awdurdod Bilio (AB) cyn dyddiad y gwrandawiad ei hun. Pan ddeuir i gytundeb ar yr apêl, dylech roi gwybod i Glerc y Tribiwnlys cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

Gallwch dynnu’ch apêl yn ôl, yn ysgrifenedig, ar unrhyw adeg cyn dyddiad y gwrandawiad.


Brig

Sut wyf yn paratoi fy achos cyn y gwrandawiad?

Os ydych yn bwriadu ymddangos gerbron y Tribiwnlys, mae’n bwysig eich bod yn paratoi eich achos ymlaen llaw. Bydd o fudd i chi ddarparu gymaint o dystiolaeth ag sy’n bosib i gefnogi eich achos ir Tribiwnlys.

Bydd yn rhaid i’r SP/SRh gyflwyno tystiolaeth i ddangos sut mae wedi cyrraedd yr Asesiad Trethiant/Bandio. Bydd y Tribiwnlys yn disgwyl i chi roi tystiolaeth i gefnogi eich achos eich hun.

Bydd y Tribiwnlys yn disgwyl fod partïon perthnasol i’r apêl wedi cytuno ar y ffeithiau sylfaenol ac wedi datgelu unrhyw wybodaeth y byddir yn dibynnu arni yn y gwrandawiad.

Efallai y bydd y canllawiau canlynol yn eich cynorthwyo i baratoi a chyflwyno eich achos i’r Tribiwnlys:

  • Sicrhewch fod cofnodion y SP/SRh yn adlewyrchu gwir natur a maint eich eiddo ar adeg eich cynnig gwreiddiol.
  • Trafodwch gyda’r SP/SRh natur y gymdogaeth gyfagos a hefyd ffactorau a allai, yn eich barn chi, effeithio ar werth eich eiddo.
  • Gofynnwch pa eiddo mae’r SP/SRh wedi ei ddefnyddio i gefnogi ei achos a dywedwch wrtho am unrhyw eiddo ychwanegol rydych yn ei ystyried yn debyg.

Brig

Oes angen i mi gyfnewid unrhyw dystiolaeth â’r Swyddog Prisio neu’r Swyddog Rhestru cyn y gwrandawiad?

Os yw’r SP/SRh yn cefnogi band eich eiddo ar sail tystiolaeth gwerthiant neu rent, mae’n rhaid iddo eich hysbysu o hynny o leiaf bythefnos cyn gwrandawiad y Tribiwnlys. Cewch gyfle i archwilio a gwneud copïau o’r dystiolaeth hon. Os dymunwch, gallwch wedyn ofyn i’r SP/SRh adael i chi archwilio’r dystiolaeth gwerthiant neu rent sydd ganddynt ar hyd at bedwar eiddo tebyg. Os yw’r SP/SRh wedi defnyddio tystiolaeth gwerthiant neu rent ar ragor na phedwar eiddo, cewch chithau geisio gwybodaeth ar nifer cyffelyb.


Brig

Oes angen i mi fynychu’r gwrandawiad?

Gall y Tribiwnlys ddelio gyda’ch apêl mewn un o’r ffyrdd canlynol:

  • Drwy wrandawiad cyhoeddus (gyda'r partïon neu eu cynrychiolwyr yn bresennol) oni bai fod y Tribiwnlys yn gorchymyn fel arall ar gais parti.
  • Drwy gynrychiolaethau ysgrifenedig wedi eu gwneud gan yr holl bartïon i’r apêl, a dim un ohonynt â chaniatâd i ymddangos gerbron y Tribiwnlys. Os dymunwch i’ch apêl gael ei benderfynu yn y modd hwn, mae’n rhaid i chi gael cytundeb pob parti i’r apêl. Gall y Clerc eich cynghori ynglŷn â dulliau gweithredu a therfynau amser. Gall Tribiwnlys sy’n penderfynu apêl drwy gynrychiolaethau ysgrifenedig ofyn i’r naill barti ddarparu tystiolaeth ychwanegol neu am i’r apêl gael ei glywed drwy wrandawiad ffurfiol.
  • Drwy gyflwyniad ysgrifenedig. Os ydych am fynd ymlaen â’ch apêl, ond yn methu mynychu’r gwrandawiad, neu gael eich cynrychioli, gallwch gyflwyno eich dadleuon yn ysgrifenedig er mwyn i’r Tribiwnlys eu hystyried yn eich absenoldeb.

Brig

Beth yw trefn y gwrandawiad?

Mae gweithrediadau’r gwrandawiad fel arfer yn anffurfiol, ond bydd y Tribiwnlys yn dilyn trefn er mwyn sicrhau fod y partïon i gyd yn cael cyfle i gyflwyno eu hachosion.

Bydd y Tribiwnlys yn penderfynu’r drefn y mae’r partïon yn cyflwyno eu hachos. Efallai y gofynnir i chi siarad yn gyntaf am mai chi yw’r apelydd, neu fe all y Tribiwnlys ofyn i’r SP neu’r SRh ddechrau.

Pan ofynnir i chi gyflwyno eich tystiolaeth, gallwch alw unrhyw dystion i gefnogi eich achos. Wedi i chi gyflwyno eich tystiolaeth, efallai y bydd y SP/SRh neu’r Tribiwnlys yn gofyn cwestiynau i chi ac unrhyw dyst. Yn yr un modd, pan fydd y SP/SRh wedi cyflwyno ei achos, gallwch chi a’r Tribiwnlys ofyn cwestiynau i’r SP/SRh ac unrhyw dyst. Mae’n bwysig sylweddoli y dylai’r partïon gyflwyno’r dystiolaeth yn llawn pan yn gwneud eu cyflwyniadau cychwynnol. Fel arfer, byddwch yn cael gwneud datganiad terfynol ond efallai y bydd unrhyw dystiolaeth newydd a gyflwynir ar yr adeg hon yn cael ei hanwybyddu.

Os nad ydych chi na’ch cynrychiolydd yn mynychu’r Tribiwnlys, neu yn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig iddo, mae gan y Tribiwnlys yr hawl i wrthod yr apêl.


Brig

A fydd y Tribiwnlys yn fy hysbysu o’i benderfyniad ar y diwrnod?

Gall y Tribiwnlys naill ai roi y penderfyniad ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad neu ohirio ei benderfyniad. Beth bynnag, mae’n ofynnol i’r Tribiwnlys ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau ar eich cyfer cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol wedi’r gwrandawiad.

Efallai y bydd y Tribiwnlys, fel canlyniad i’w benderfyniad, yn gorchymyn i’r SP/SRh newid y Rhestr Brisio neu’r Rhestr Trethi. Bydd y SP/SRh yn hysbysu’r Awdurdod Bilio am y newid. Gall y gorchymyn hefyd gynnwys unrhyw beth arall sy’n angenrheidiol i weithredu benderfyniad y Tribiwnlys.


Brig

A yw’r Tribiwnlys yn gallu dyfarnu costau?

Nid oes gan y Tribiwnlys unrhyw rym i ddyfarnu costau. Felly, bydd yn rhaid i chi dalu eich costau eich hun (a chostau unrhyw gynrychiolydd) wrth baratoi eich achos a mynychu’r gwrandawiad h.y. costau teithio i wrandawiad y Tribiwnlys. Ar hyn o bryd, nid oes darpariaeth ar gyfer Cymorth Cyfreithiol o ran gweithrediadau’r Tribiwnlys, er bod rhai cyfreithwyr yn rhoi cyngor o dan gynllun y ffurflen werdd.


Brig

A yw’r Tribiwnlys yn gallu adolygu ei benderfyniad?

Gall y Tribiwnlys adolygu ei benderfyniad ar y seiliau canlynol yn unig:

  • gwnaethpwyd y cam-benderfyniad o ganlyniad i wall clerigol;
  • ni fynychodd parti y gwrandawiad a gallant ddangos rheswm da dros beidio ag ymddangos; neu
  • effeithir ar y penderfyniad gan benderfyniad yr Uchel Lys neu’r Tribiwnlys Tiroedd mewn perthynas â’r eiddo sy’n destun penderfyniad y Tribiwnlys.

Os ydych yn dymuno gwneud cais am adolygiad ar unrhyw un o’r seiliau uchod, dylech gyflwyno cais ysgrifenedig i Glerc y Tribiwnlys gan nodi’r seiliau ar gyfer adolygiad. Gall cais am adolygiad gael ei wrthod os nad yw’n cael ei wneud o fewn pedair wythnos o’r dyddiad y cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi i’r partïon.


Brig

A allaf apelio yn erbyn y penderfyniad (Prisiad Treth y Cyngor)?

Mae gennych hawl i apelio i’r Uchel Lys ar bwynt o gyfraith. Mae’n rhaid gwneud y cais o fewn pedair wythnos o ddyddiad cyhoeddi’r penderfyniad neu’r gorchymyn perthnasol.

Fe all yr Uchel Lys ddyfarnu costau yn erbyn y parti aflwyddiannus.


Brig

A allaf apelio yn erbyn penderfyniad (Treth Annomestig)?

Mae gennych hawl i apelio i’r Tribiwnlys Tiroedd os ydych wedi ymddangos gerbron y Tribiwnlys yn bersonol neu wedi cael eich cynrychioli. Mae’n rhaid gwneud y cais o fewn pedair wythnos o ddyddiad cyhoeddi’r penderfyniad neu’r gorchymyn perthnasol.

Fe all y Tribiwnlys Tiroedd ddyfarnu costau yn erbyn y parti aflwyddiannus.


Brig

A allaf gwyno am y gwasanaeth a ddarparwyd?

Os oes gennych gwyn ynglŷn â gweinyddu eich apêl, yn hytrach na’ phenderfyniad y Tribiwnlys, yna:

  • Yn gyntaf, dylech ysgrifennu at Glerc y Tribiwnlys, fel y gall ef neu hi ymchwilio i’r mater;
  • Os ydych yn parhau yn anfodlon, gallwch ysgrifennu at Lywydd y Tribiwnlys, gan gyfeirio eich llythyr at swyddfa’r Tribiwnlys;
  • Ar unrhyw adeg, gallwch ofyn i Aelod Seneddol drafod eich cwyn gyda naill ai’r Clerc neu’r Llywydd, neu fe allwch ofyn i AS gyfeirio’r mater at y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddu (yr Ombwdsman).

Nodwch, os gwelwch yn dda, fod eich hawl i gwyno yn ymwneud â dulliau gweinyddol y swyddfa Tribiwnlys Prisio yn unig. Nid yw’n ymestyn i unrhyw benderfyniad gan y Tribiwnlys yn dilyn gwrandawiad apêl, ac felly nid yw’n cymryd lle eich hawl i apelio i’r Uchel Lys neu’r Tribiwnlys Tiroedd.


Brig

(C) 2008 Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio ar gyfer Cymru Cedwir pob hawlfraint
Accessibility Statement | Privacy Policy
Website Development By: Trimast Systems Limited