vtswTagLine.gif
Gwe 30 Gorffennaf 2010
 
Chwilio


Penodiad Prif Weithredwr

CYHOEDDIAD GAN GYFARWYDDWR Y CYNGOR LLYWODRAETHOL ndash; GWASANAETH TRIBIWNLYS PRISIO CYMRU Penodiad Prif Weithredwr Mae'n bleser gan Y Cyngor Llywodraethol gyhoeddi penodiad Mr Simon Hil Darllen Mwy .

Cartref : Dod yn Aelod TP : Dod yn Aelod TP

Dod yn Aelod TP

Beth yw Tribiwnlysoedd Prisio?

Mae yna bedwar Tribiwnlys Prisio (TP) o dan nawdd y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio yng Nghymru (GTPC) ac yn cael eu hariannu gan gronfeydd cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC).

Fodd bynnag, mae pob Tribiwnlys yn gyfundrefn annibynnol yn farnwrol sy’n delio ag apeliadau yn ymwneud â Threthi Annomestig, Treth y Cyngor a Threthi Draenio. Mae GTP yn annibynnol oddi wrth y Swyddog Prisio (SP) a’r Swyddog Rhestru (SR) sy’n gyfrifol am grynhoi a chynnal y Rhestri Treth a Treth y Cyngor, a hefyd yr Awdurdod Bilio (AB) sy’n cyhoeddi’r gorchmynion i’r unigolion atebol.

Gwirfoddolwyr a phobl leol yw Aelodau’r Tribiwnlysoedd. Er nad ydynt efallai yn gymwys yn broffesiynol, maent yn derbyn hyfforddiant ac yn brofiadol mewn gwrando apeliadau. Bydd clerc yn cynghori ar faterion trefn a’r gyfraith. Mae’r clerc yn gyflogedig gan y tribiwnlys.

Mae TP yn darparu gwasanaeth rhad ac am ddim, felly ni allant ddyfarnu fod partïon i apêl yn talu costau. Fodd bynnag, mae’n rhaid i bartion dalu costau eu hunain i fynychu’r gwrandawiad tribiwnlys. Mae’r Tribiwnlysoedd yn gwrando apeliadau yn lleol, lle bo modd gwneud hynny.

Beth mae Tribiwnlysoedd Prisio yn ei wneud?

Fel rheol mae tri aelod o’r tribiwnlys yn eistedd ar y gwrandawiad [er fe all dau aelod wrando apêl os ydi pawb yn cytuno i hyn], ac yn penderfynu apeliadau yn erbyn prisiant eiddo ar gyfer Trethiant neu Treth Y Cyngor, yn ogystal ag atebolrwydd pobl am drethi lleol a materion perthnasol eraill. Gall y rhain gynnwys, er enghraifft, apeliadau ynglŷn â gwerth uned ddiwydiannol fychan neu barêd eang

o siopau, bandio byngalo bychan, neu gymhwyster person ar gyfer ddisgowntiau personol. Nid ydynt yn ystyried cwestiynau sy’n gysylltiedig i’r lefel o dreth, hawl rhywun i fudd-daliadau neu faterion cyfrif bilio.

Gall unrhyn un ddod yn aelod o'r Tribiwnlys?

Yn gyffredinol, gellir. Mae aelodau lleyg yn cael eu hapwyntio yn lleol gan baneli cyd sef cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol a’r Tribiwnlys Prisio. Dylai pob tribiwnlys gael groestoriad da o aelodau sy’n adlewyrchu’n deg y boblogaeth gyffredinol yn eu hardal: yn cynnwys ystyriaeth o broffil oed, lleiafrifoedd ethnig, rhyw a phobl anabl. Mae pobl o bob cefndir yn cael eu hannog i roi eu hunain ymlaen ar gyfer apwyntiad. Fodd bynnag, mae rhai pobl eraill, megis methdalwyr neu y rhai hynny sydd wedi bod yn y carchar yn annhebygol o gael eu hapwyntio ac mae yna gyfyngiad ar y nifer o gynghorwyr (sirol) lleol.

Beth ddisgwylir gennyf?

Bydd yr ymrwymiad yn amrywio rhwng ardaloedd, ond fe fyddai angen i chi fynychu beth bynnag un neu ddau wrandawiad pob mis, drwy drefniant gyda Clerc y Tribiwnlys. Mae hyd gwrandawiadau fel rheol yn amrywio o awr i ddiwrnod neu fwy. Dylech hefyd fod yn barod i deithio ledled ardal y tribiwnlys.

Fe fydd angen i aelodau arwyddo ymgymeriad i fynychu hyfforddiant strwythurol.

Ydwyf i angen cymwysterau?

Na. Nid ydi profiad blaenorol na chymwysterau yn angenrheidiol, gan fod hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu yn lleol ac yn genedlaethol, ar phob agwedd o’r gwaith. Gall gwaith aelod o’r tribiwnlys fod yn her ddeallusol, a bydd yn apelio at bobl sydd a diddordeb mewn materion lleol neu brosesau barnwrol. Y prif rinweddau sy’n ofynnol gan aelodau ydi amhleidioldeb, gwrthrychedd, synnwyr cyffredin a’r gallu i gydweddu ffeithiau yn rhwydd.

Ydi aelodau'r Tribiwnlys yn cael eu talu?

Na. Mae aelodaeth yn wirfoddol ac mae’r swyddi yn ddi-dâl, ond fe fyddech a’r hawl i geisio treuliau colledion megis cynhaliaeth a lwfans teithio, a phan yn briodol cyfraniad tuag at unrhyw goll enillion.

Sut allaf ddarganfod mwy o wybodaeth?

Cysylltwch â'r tribiwnlys prisio yn eich ardal (mae manylion yma ar ein Tudalen Swyddfeydd ).

Beth yw'r cam nesaf os ydwyf yn dymuno dod yn aelod?

Denyddiwch os gwelwch yn dda ein Ffurflen Gais Aelod i nodi eich diddordeb.

(C) 2010 Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio ar gyfer Cymru Cedwir pob hawlfraint
Accessibility Statement | Privacy Policy
Website Development By: Trimast Systems Limited