
PRIF WEITHREDWR
CYFLOG ODDEUTU: £42 MIL
Mae’r Cyngor Llywodraethol am benodi Prif Weithredwr i fod yn bennaeth ar weinyddiaeth y pedwar Tribiwnlys Prisio cydrannol yng Nghymru, sef Tribiwnlysoedd Prisio Dwyrain, Gogledd, De a Gorllewin Cymru. Mae’r Tribiwnlysoedd yn gyfrifol am brosesu, rhestru, gwrando ar a phenderfynu apeliadau yn erbyn prisiadau ar gyfer ardrethi annomestig a hefyd prisiadau ac atebolrwydd treth y cyngor.
Disgwylir i’r sawl a benodir ddarparu arweinyddiaeth llawn ysbrydoliaeth a chyfeiriad wrth ddatblygu Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio unedig i Gymru i weinyddu’r Gwasanaeth yn effeithiol ac effeithlon ar sail Cymru gyfan. Bydd ef/hi yn gyfrifol am gyflwyno a gweithredu newidiadau tymor byr, tymor canolig a thymor hir dan gyfeiriad polisi’r Cyngor Llywodraethol.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau rheolaeth, yn cynnwys:
Byddai’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.
Tra bo’r swydd yn swydd rheolaethol yn bennaf, byddai profiad a/neu wybodaeth am waith Tribiwnlysoedd Prisio yn cael ei ystyried yn ddymunol i fod yn bennaeth ar weinyddiaeth y gwasanaeth cymharol fychan yma o oddeutu ugain o staff yng Nghymru.
Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn hyfedr mewn Technoleg Gwybodaeth (rhaglenni Microsoft Word ac Excel) ac ymwneud ag uwch dasgau gweinyddol ei hun yn y Gwasanaeth bychan hwn.
Bydd y Prif Weithredwr, drwy’r Tîm Rheoli sy’n cynnwys y Clercod a’r Prif Weithredwr, yn arwain y weinyddiaeth. Mae annibyniaeth barnwrol yn hanfodol bwysig i’r Tribiwnlysoedd. Mae eu swyddogaethau barnwrol, yn cynnwys rhestru a phenderfynu ar apeliadau a materion aelodaeth, yn cael eu cynnal yn lleol dan gyfarwyddyd statudol y Llywydd perthnasol gyda chymorth ei Glerc.
Mae papur ymgynghorol wedi cael ei gyhoeddi yn ddiweddar, gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, ynglŷn â newidiadau i strwythur y pedwar Tribiwnlys Prisio yng Nghymru.
Penodir y swydd ar sail amser llawn am ddwy flynedd i ddechrau, pan fydd y swydd yn cael ei hadolygu o safbwynt statws amser llawn a pharhaol.
Mae’r Cyngor Llywodraethol yn barod i ystyried secondiad, o gefndir addas. Bydd y swydd yn derbyn cymorth a chefnogaeth uniongyrchol o leiaf un Swyddog Gweinyddol penodol (neu gyfwerth i amser llawn).
Cynigir y swydd yn unol ag amodau gwaith ‘Llyfr Gwyrdd’ Llywodraeth Leol fel a fabwysiadwyd gan y Gwasanaeth Triwbiwnlys Prisio. Mae’r amrediad cyflog rhwng pwyntiau 51 a 54 y raddfa gyflog Llywodraeth Leol. Telir costau teithio (Defnyddiwr Car Achlysurol ar hyn o bryd) a lwfans cynhaliaeth dan amgylchiadau priodol. Caiff staff y Tribiwnlys Prisio ymuno gyda chynllun pensiwn a drefnir gan Gynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Penderfynir ar leoliad swyddfa’r Prif Weithredwr ar adeg penodi i’r swydd, a gallai gael ei leoli yn swyddfeydd Dwyrain/De, Gogledd neu Orllewin Cymru yng Nghasnewydd, Bae Colwyn a Chaerfyrddin yn ôl eu trefn. Gellir ystyried swyddfa fechan ar ei phen ei hun hefyd, dan amgylchiadau eithriadol.
Polisi Cyngor Llywodraethol Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cymru yw hybu cyfle cyfartal ym mhob agwedd o’i weithrediadau.
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais cysylltwch â: Cyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethol, d/o Mr J.C. Owen IRRV – Prif Weithredwr
Pob gohebiaeth i gael ei farcio ‘CYFRINACHOL (PW)’
DYDDIAD CAU AR GYFER DERBYN CEISIADAU WEDI’U CWBLHAU
4 RHAGFYR 2008
Mae Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sy’n darparu ei gyllid, cyhoeddi deddfwriaeth berthnasol a chymeradwyo’r penodiadau a wneir. Fel arall mae pob Tribiwnlys Prisio unigol yn weithredu yn gwbl annibynnol dan ymbarel gweinyddiaeth Cyngor Llywodraethol Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.
Pecyn Cais – Hysbyseb Swydd Dogfen Sylfaen
Pecyn Cais – Disgrifiad Swydd
Pecyn Cais – Manyleb y Person
FFURFLEN GAIS
Tribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru Ad-drefnu Papur Ymgynghori