Beth mae'r Tribiwnlys Prisio yn ei wneud yn gryno …
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn gwrando ar apeliadau trethiant lleol, yn bennaf mewn perthynas â'r Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (ardrethi busnes). I gael gwybod mwy, cliciwch ar y dolenni Treth y Cyngor a Threthi Busnes yn y ddewislen ar y chwith.
Cyfleoedd Gyrfa Gyfredol
Clercod Tribiwnlys
Ar hyn o bryd rydym yn ceisio penodi nifer o Glercod Tribiwnlys i ymuno â'n tîm. Mae Clercod Tribiwnlys yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gweithrediad tribiwnlysoedd yn digwydd yn ddidrafferth.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd wedi'u haddysgu'n dda, sydd â sgiliau Cymraeg rhugl, ac sydd â phrofiad a chymwysterau mewn refeniw awdurdodau lleol (treth gyngor a/neu ardrethi busnes) neu brisiad ar gyfer ardrethu. Fodd bynnag, rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol, ac nid yw hyfedredd yn y Gymraeg yn orfodol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu hyfforddiant Cymraeg i ymgeiswyr sy'n dangos parodrwydd i ddysgu. Yn anad dim, bydd arddangos gallu i ddysgu ac awydd cryf am ddatblygiad parhaus yn allweddol i gais llwyddiannus.
Ewch i'n tudalen Swyddi am yr hysbyseb llawn, ac i lawrlwytho ein pecyn cais a'n ffurflen gais. Os byddwch yn dewis gwneud cais, sicrhewch fod eich cais yn cael ei gyflwyno erbyn dydd Gwener, 10 Ebrill 2026. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.
Newidiadau i apêl ardrethi busnes yng Nghymru …
Newidiodd y ffordd i apelio gwerth ardrethol eich eiddo ar 1 Ebrill 2023. Gwyliwch ein fideo isod am fanylion.

