Beth mae'r Tribiwnlys Prisio yn ei wneud yn gryno …

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn gwrando ar apeliadau trethiant lleol, yn bennaf mewn perthynas â'r Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (ardrethi busnes). I gael gwybod mwy, cliciwch ar y dolenni Treth y Cyngor a Threthi Busnes yn y ddewislen ar y chwith.

Cyfleoedd Gyrfa Gyfredol

Cyfleoedd Gyrfa Gyfredol

Swyddog Cymorth Gweinyddol

£24,404 i £28,163 y flwyddyn

Casnewydd

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru (TPC) yn edrych i recriwtio hyd at 3 Swyddog Cymorth Gweinyddol a'u prif swyddogaethau fydd:

• darparu gwasanaethau gweinyddol llawn i TPC, ac,

• cefnogi Clercod y Tribiwnlys i reoli'r llwyth achos a ddyrannwyd.

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sydd â pharodrwydd i ddysgu a'r gallu i ddatrys problemau. Yn ddelfrydol, hoffem iddynt feddu ar sgiliau Cymraeg neu o leiaf parodrwydd i ddysgu.

Ewch i'n tudalen Swyddi am yr hysbyseb llawn, ac i lawrlwytho ein pecyn cais a'n ffurflen gais.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 27 Mehefin 2025.

Newidiadau i apêl ardrethi busnes yng Nghymru …

Newidiodd y ffordd i apelio gwerth ardrethol eich eiddo ar 1 Ebrill 2023. Gwyliwch ein fideo isod am fanylion.